Acts 2:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Creteit ac Arabieit: ni ei clywsam yn amadrodd yn ein tavodae ein hunain vawrion bethæ Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ni weithredoedd mawrion Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein tafodau ni am orchestion Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
— rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig — a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed yn llefaru yn ein hieithoedd ein hunain bethau mawrion Duw.