Acts 2:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr Petr yn sefyll y gyd ar vn ar ddec, a dderchavawdd ei lef, ac a ddyvot wrthwynt, Ha wyr Iuddeon, a’ chwychwy oll’sy yn trigiaw yn‐Caerusalem, bid hyn wybodedic ychwy, a’ chlustymwrandewch a’m geiriae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gododd ei lais, ac a ddywedodd wrthynt, Gwyr o Iwddewon, a’r oll sy’n trigo yn Ierwshalem, bydded hyn yn hysbys i chwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A safodd Pedr ynghyd â’r un ar ddeg, a chododd ei lais ac anerchodd hwynt, “Wŷr Iwdea, a thrigolion Caersalem oll, bydded hyn hysbys i chwi, a rhowch glust i’m geiriau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Pedr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â'm geiriau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus — gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd Pedr ynghyd 'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: "Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Petr, gan sefyll i fyny gyda'r un‐ar‐ddeg, a gododd ei lais, ac a lefarodd yn rymus wrthynt, O wyr o Iuddewon, a phawb sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded hyn yn hyspys i chwi, a rhoddwch glust i'm geiriau.