Acts 2:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad yw yr ei hyn yn veddw on, val ydd yw chwi yn tybyeit, o bleit nid yw hi anid y drydedd awr o’r dydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhoddwch glust i’m hymadroddion: canys nid yw y rhai hyn, fel yr ydych chwi yn tybied, yn feddwon, canys y drydedd awr o’r dydd yw hi:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid yw’r rhain yn wir, fel y tybiwch chwi, yn feddw; canys y drydedd awr o’r dydd yw hi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid yw'r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid yw y rhai hyn yn feddw, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegyd y drydedd awr o'r dydd yw hi.