Acts 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e vydd yn y dyddiae dywethaf, með Dew, mi ddineaf o’m Yspryt ar bop cnawd, a’ch meibion, ach merchet a prophwytant ach gwyr‐ieuainc a welant welodiagethae, a’ch hena f gwyr a vreuddwydiant vreuddwydion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Iehofah, y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd, A phrophwyda eich meibion ac eich merched A’ch gwŷr ieuaingc, gweledigaethau a welant, Ac eich henafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o’m hysbryd ar bob cnawd; a phroffwyda’ch meibion a’ch merched, a’ch gwŷr ifainc, gweledigaethau a welant, a’ch hynafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi a'ch merched a broffwydant, a'ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau, a dynion hŷn yn cael breuddwydion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw: tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb; a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo; bydd eich gwu375?r ifainc yn cael gweledigaethau, a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, Y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd, A prophwyda eich meibion a'ch merched, A'ch gwyr ieuainc a welant weledigaethau, A'ch henaf‐gwyr a freuddwydiant freuddwydion: