Acts 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar vy‐gweison, ac ar vy llawvorinion y dineaf o’m Yspryt y dyddiae hyny, ac wy a prophetant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar Fy ngweision a’m llawforwynion yn y dyddiau hyny Y tywalltaf o’m Hyspryd, a phrophwydant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
hyd yn oed ar fy nghaethweision a’m caethforynion yn y dyddiau hynny y tywalltaf o’m Hysbryd, a phroffwydant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o'm Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny bydda i'n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd, yn ddynion a merched, a byddan nhw'n proffwydo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion, yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd, ac fe broffwydant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac, yn wir, ar fy ngweision ac ar fy llaw‐forwynion yn y dyddiau hyny y tywalltaf o'm Hyspryd, ac y prophwydant.