Acts 2:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr haul a ymchwelir yn dywyllwc h, a’r lloer yn waet, cyn nac ir dydd hwnw mawr ac eglur yr Arglwydd ddyvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, Cyn dyfod o ddydd Iehofah, y dydd mawr a hynod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn dyfod dydd yr Arglwydd, y dydd mawr ac amlwg;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr haul yn troi'n dywyll a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod, sef, Dydd yr Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
troir yr haul yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr haul a droïr yn dywyllwch, a'r lleuad yn waed, Cyn dyfod Dydd Mawr a nodedig yr Arglwydd.