Acts 2:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ha wyr Israelieit, clywch y geiriae hynn, Iesu o Nazaret, gwr provedic gan Ddew yn eich plith a gweithredoedd‐nerthawl, a’ rryveddodae, ac arwyddion, yr ei y wnaeth Dew drwyddaw ef yn eich canol chvvi, megis ac y gwyddo‐chwi eich hunain:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Natsaread, Gŵr a gymmeradwywyd gan Dduw yn eich plith trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw Trwyddo Ef yn eich canol, fel y gwyddoch eich hunain;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wŷr Israel, gwrandewch y geiriau hyn; Iesu’r Nasaread, gŵr arddeledig gan Dduw i chwi trwy rymusterau a rhyfeddodau ac arwyddion, a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysg, fel y gwyddoch eich hunain, hwn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ei ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth — dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol trwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bobl Israel, clywch hyn: sn yr wyf am Iesu o Nasareth, gu373?r y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O wyr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Nazaread, gwr wedi ei gymeradwyo o Dduw i chwi trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo Ef yn eich canol chwi, megys y gwyddoch chwi: