Acts 2:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn a gyvodes Dew i vyny dd, ac e ellyngawdd ddoluriae angae, can ys anpossibil oedd ei attal ef ganthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan Ei groes-hoelio, a laddasoch: Hwn, Duw a’i cyfododd, gan ddattod gofidiau angau, canys nid oedd bosibl Ei attal ganddo, canys Dafydd a ddywaid am Dano,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond cyfododd Duw ef, gan atal gwewyr Angau, oherwydd nid oedd bosibl i hwnnw’i ddal yn ei afael.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau dirboenau angeu, canys nid oedd bosibl ei ddal yn dyn ganddo.