Acts 2:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit Dauid a ddywait amdanaw, Yr Arglwydd a rac welais yn wastad ger vy‐bron, can ys ar vy‐deheulaw y mae, mal nam cyffroer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Gwelais Iehofah ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dywed Dafydd amdano, Gwelwn yr Arglwydd ger fy mron yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgydwer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: 'Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, Gwelais o fy mlaen yr Arglwydd ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm syfler.