Acts 2:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A wyr vroder, mi allaf gympwyll yn eon, wrthych am y Patriarch Dauid, pan yw darvot i varw a’ei gladdy, a’ bot ei vedrod gyd a ny ni yd y dydd heddyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwŷr frodyr, gan allu o honof ddweud yn hyderus wrthych am y patriarch Dafydd y bu efe farw a’i gladdu, ac ei feddrod sydd gyda ni hyd y dydd hwn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Frodyr, rhydd yw dywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, canys bu farw a chladdwyd ef, ac y mae ei fedd yn ein plith hyd y dydd hwn;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha wŷr frodyr, y mae'n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O wyr Frodyr, gadewer i mi ddywedyd yn hyf wrthych ynghylch y Patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn.