Acts 2:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hynny, ac ef yn Prophwyt, ac yn gwybot dyngy o Ddew iddaw a’ llw, mae o ffrwyth ei lwyn ef, y cyvodei ef Christ i vyny dd erwydd y cnawd aei ’osot ar ei eisteddfa,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
am hyny, gan fod yn brophwyd ac yn gwybod mai â llw y tyngasai Duw iddo i osod o ffrwyth ei lwynau ef ar ei orsedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ef yn broffwyd, ynteu, ac yn gwybod i Dduw dyngu wrtho ar lw y gosodai o ffrwyth ei lwynau ar ei orsedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny ac efe yn brophwyd, ac yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef y gosodai Efe un ar ei orsedd;