Acts 2:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
efe yn gwybot hyn ymblaen, a bwyllawdd am gyfodiad igeth Christ, na edawit y enait ef yn y bedd rod, ac na byddei, y ei gnawt welet llwgr ydigeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan rag-weled y llefarodd am adgyfodiad Crist, “Ni adawyd Ef yn Hades,”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ragweled llefarodd am atgyfodiad y Crist, nis gadawyd ef yn Hades ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw roedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd: 'Ni adawyd ef yn Hades, ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
efe, gan rag‐weled, a lefarodd am Adgyfodiad y Crist, na adawyd Ef i Hades, ac nas gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth.