Acts 2:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Wrth hyny, gwybyddet oll tuy yr Israel yn ddiogel, bod i Ddew y wneythyt ef yn Arglwydd ac yn Christ, ys ef yr Iesu hwn, yr vn a groceso‐chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, sicr-wybydded holl dŷ Israel mai yn Arglwydd ac yn Grist y gwnaeth Duw Ef, yr Iesu Hwn, yr Hwn chwychwi a’i croes-hoeliasoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwybydded yn sicr, felly, holl dŷ Israel i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly gwybydded holl du375? Israel yn sicr fod Duw wedi ei wneud ef yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, gwybydded holl dy Israel yn sicr ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, sef yr Iesu hwn, yr hwn a groeshoeliasoch chwi.