Acts 2:37 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn ol yddynt clywet hynn, y brethit wy yn ei calonae, ac ei dywedynt wrth Petr a’r Apostolon yr eill, A wyr vroder, pa beth a wnawn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi clywed hyn, pigwyd hwy yn eu calon, a dywedasant wrth Petr a’r apostolion eraill, Pa beth a wnawn, frodyr?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddynt glywed, dwysbigwyd eu calon, a dywedasant wrth Bedr a’r lleill o’r apostolion, “Beth a wnawn, frodyr?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl wedi eu hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, "Beth a wnawn ni, gyfeillion?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwythau, wrth glywed hyn, a ddwys‐bigwyd yn eu calon; ac a ddywedasant wrth Petr a'r Apostolion eraill, Beth a wnawn ni, O Wyr Frodyr?