Acts 2:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno yr ei a dd erbynyent yn llawen y amadroð ef, a vatyddiwyt: a’r dydd hwnw y dodwyt vvrth yr eglvvys yn‐cylch tair mil o eneidiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Rhai, gan hyny, wedi derbyn ei ymadrodd, a fedyddiwyd; ac ychwanegwyd attynt y dwthwn hwnw ynghylch tair mil o eneidiau:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnnw tua thair mil o eneidiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio — tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny yn wir y rhai a dderbyniasant ei ymadrodd ef a fedyddiwyd, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnw ynghylch tair mil o eneidiau.