Acts 2:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e gyvodes ofn ar bop enait: a’ llawer o ryveddodae ac arwyddion y wnaethpwyt y gan yr Apostolon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd ar bob enaid ofn; a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaed gan yr apostolion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuai ar bob enaid ofn, a rhyfeddodau ac arwyddion lawer a wneid drwy’r apostolion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd ofn ar bob enaid, a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd trwy yr Apostolion.