Acts 2:47 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan voli Dew, ac yddwynt gariat gan yr oll popul: A’r Arglwydd a angwanegawdd i’r Eccleis beunydd, cyfryw ac a vyddent cadwedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan foli Duw, ac yn cael ffafr gyda’r holl bobl. A’r Arglwydd a ychwanegodd attynt beunydd y rhai oedd yn cael eu hachub.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan foli Duw a chael ffafr gan yr holl bobl. A chwanegai’r Arglwydd beunydd y rhai oedd yn cael eu cadw, bawb at ei gilydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno a nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan foli Duw a chael ffafr gyda'r holl bobl. A'r Arglwydd oedd yn ychwanegu at eu gilydd yn ddyddiol y rhai oeddynt yn cael eu hachub.