Acts 2:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yn preswiliaw yn Caerusalem Iuðaeon, gwyr ai goglyt ar Ddew, o pop cenetl y dā y nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yn Ierwshalem Iwddewon a drigent yno, gwŷr crefyddus, o bob cenedl dan y nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yng Nghaersalem yn trigo Iddewon, gwŷr duwiol o bob cenedl dan y nef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem Iuddewon, gwyr duwiol‐frydig, o bob cenedl sydd dan y Nef.