Acts 2:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy bot son o hyn yma ar lled, y daeth y lliaws yn‐cyd, ac y sannawdd arnynt, o bleit bot pawp dyn yn y clywet wy yn ymadrodd yn ei davodiaith ehun,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi digwydd o’r llais hwn, daeth y lliaws ynghyd a dyryswyd hwynt, canys clywent, bob un, hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi dyfod y sŵn hwn ymgynullodd y lliaws ac ymddrysu, canys clywodd pob un hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wrth glywed y su373?n hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n ln am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddygwyddodd y llais hwn, y lliaws a ddaethant ynghyd ac a ddyryswyd, o herwydd bod pob un yn eu clywed yn llefaru yn ei briod‐iaith ei hun.