Acts 2:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac aruthro o pawp, a’ rryveddy, gan ddywedyt yn ei plith, Nacha, anid han yw’r ei hyn oll ys y yn dywedyt, o’r Galelaia?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A synnasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn y sy’n llefaru, yn Galileaid?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a synnent a rhyfeddent, gan ddywedyd, “Wel! Onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sy’n llefaru?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw'r rhai hyn oll sydd yn llefaru?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn synnu a rhyfeddu, ac meddent, "Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A synasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd, Wele, onid yw yr holl rai hyn sydd yn llefaru yn Galileaid?