Acts 20:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC wedy darvot yspeidiaw or derfysc, y galwodd Paul y discipulon ataw, ac y cofleidiawdd h wy, ac y tynnawdd ymaith y vynet i Macedonia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar ol peidio o’r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y disgyblion, ac eu cynghori a’u cofleidio, a aeth allan i fyned i Macedonia;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i’r cythrwfl beidio, danfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog wrth ffarwelio aeth ymaith i gyrchu i Facedonia.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl gostegu'r cythrwfl, Paul, wedi galw'r disgyblion ato, a'u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw'r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a'u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd hwy ac aeth ymaith ar ei ffordd i Facedonia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol darfod o'r cythrwfl, Paul, wedi danfon am y dysgyblion, a'u cynghori a' u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Macedonia.