Acts 20:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Paul a ddescennawdd, ac a orweddawdd arnaw, ac ei coflleidiawdd, gan ddywedyt, Na chyffroet arnoch: can ys y mae ei enait ynthaw eto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned i lawr, Paul a syrthiodd arno, a chan ei gofleidio, dywedodd, na chyffroed arnoch, canys y mae ei fywyd ynddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth Paul i lawr, a syrthio arno, ac wedi ymaflyd amdano fe ddywedodd, “Peidiwch â brawychu; canys y mae ei fywyd ynddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna aeth Paul i lawr, a thaflu ei freichiau o gwmpas y dyn ifanc. “Peidiwch cynhyrfu!”, meddai, “Mae'n fyw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, "Peidiwch chynhyrfu; y mae bywyd ynddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio a ddywedodd, Na therfysgwch, canys y mae ei fywyd ynddo.