Acts 20:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly yn ol escen y Paul drachefn, a dryllio bara, a’ bwyta peth, ef a hir ymddiddanawð yd ar glais y dydd, ac yno yð aeth ymaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned i fynu, a thorri’r bara, a bwytta, ac ymddiddan am amser hir, hyd dorriad y dydd, yr aeth efe yn ebrwydd ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi mynd i fyny a thorri’r bara a’i brofi ac ymddiddan dalm hyd doriad dydd, yna aeth ymaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn aeth yn ôl i fyny i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Aeth yn ei flaen i siarad nes oedd hi wedi gwawrio, ac yna gadawodd nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo fyned i fyny, a thori y Bara, a bwyta, ac ymddyddan am hir amser, hyd doriad dydd, felly yr ymadawodd.