Acts 20:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr aetham ymaith ir llong, ac ir hwyliesam i ddinas Assos, er mwyn bot i ni dd erbyn Paul yno: can ys velly y daroedd yddo arvaethy, a’ myny bot ehun yn peddit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A nyni wedi myned o’r blaen at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr oddiyno gymmeryd i fynu Paul, canys felly yr appwyntiasai pan ar fedr myned ei hun ar ei draed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aethom ni o’i flaen i’r llong a hwyliasom tuag Assos, gan fwriadu cymryd Paul i fyny oddiyno, canys felly yr oedd ef wedi cyfarwyddo, gan fwriadu myned ei hun dros y tir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nyni a aethom o'r blaen i'r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Paul yn penderfynu croesi ar draws gwlad i Assos. Roedd am i'r gweddill ohonon ni hwylio yno ar long, a byddai'n ein cyfarfod ni yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ninnau, aethom o flaen Paul i'r llong, a hwylio i gyfeiriad Asos, gan fwriadu ei gymryd i'r llong yno; oblegid dyma'r cyfarwyddyd a roesai ef, gan fwriadu mynd ei hun dros y tir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A nyni wedi cyrhaedd hyd at y llong, a hwyliasom i Assos, ar fedr yno cymeryd Paul i mewn; canys felly yr oedd efe wedi trefnu pan ar fedr myned ei hun ar draed.