Acts 20:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mordwyaw a wnaetham o dd yno a’ dyvot tranoeth ar gyf‐or Chios, a’ thranoeth y tiriesam yn Samos, ac a drigesam yn Trogillium: y dydd nesaf yd aetham i Miletum.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi hwylio oddi yno, trannoeth y daethom cyferbyn â Chios; a thradwy troisom i mewn i Samos, ac ar y dydd canlynol daethom i Miletus;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi morio oddiyno drannoeth cyraeddasom gyferbyn â Chios, a thradwy croesi a wnaethom i Samos, a’r dydd wedyn deuthom i Filetus.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a'r ail dydd y daethom i Miletus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod wedyn dyma ni'n cyrraedd gyferbyn ag ynys Cios. Croesi i Samos y diwrnod canlynol. Ac yna'r diwrnod ar ôl hynny dyma ni'n glanio yn Miletus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hwylio oddi yno drannoeth, cyraeddasom gyferbyn Chios, a'r ail ddiwrnod croesi i Samos, a'r dydd wedyn dod i Miletus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi mordwyo oddiyno, dranoeth ni a ddaethom gyferbyn a Chios; ac ar y dydd arall ni a wthiasom yn groes i Samos; a'r dydd canlynol ni a ddaethom i Miletus: