Acts 20:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys darvot i Paul amcanu mordwyaw eb law Ephesus, erwydd na vynnai dreuliaw amser yn Asia: can ys brysiaw ydd oedd, a’ s bai possibil iddaw, y vot yn‐Caerusalem, y dydd Pentecost.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys penderfynasai Paul hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia, canys brysiai, os byddai bosibl iddo, fod ar ddydd y Pentecost yn Ierwshalem.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys barnasai Paul yn dda hwylio heibio i Effesus, rhag bod iddo dreulio amser yn Asia; canys brysio yr oedd i fod yng Nghaersalem, os oedd bosibl, erbyn dydd y Sulgwyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Paul wedi penderfynu peidio galw yn Effesus y tro yma, rhag iddo golli gormod o amser yn nhalaith Asia. Roedd ar frys, ac yn awyddus i gyrraedd Jerwsalem erbyn Gŵyl y Pentecost.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Effesus, rhag iddo orfod colli amser yn Asia, gan ei fod yn brysio er mwyn bod yn Jerwsalem, pe bai modd, erbyn dydd y Pentecost.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Ephesus fel na fyddai iddo dreulio amser yn Asia; canys brysiai, os oedd bosibl iddo, i fod yn Jerusalem Ddydd y Pentecost.