Acts 20:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn awr wele, vy vi yn rhwym yn yr yspryt yn mynet i Gaerusalem, eb wybot pa beth a ddervydd y my‐yn th ei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, wele myfi yn rhwym yn yr yspryd wyf yn myned i Ierwshalem, heb wybod y pethau a ddigwyddant i mi ynddi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn awr dyma fi, yn rhwym fy ysbryd, yn cyrchu i Gaersalem, heb wybod yr hyn a gyferfydd â mi yno,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A nawr dw i'n mynd i Jerwsalem. Mae'r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i'n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr, wele myfi, yn rhwym yn yr yspryd, yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddant i mi ynddi: