Acts 20:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr nad wy vi yn gwneythy dim devnydd, ac nid oes genyf vri ar vy‐bywyt vyhun, a’s gallaf ’orphen vy‐cerddet gyd a llawenydd, a’r gweinidogaeth yr hwn a dd erbyniais y gan yr Arglwydd Iesu, y destolaethy Euangel rrat Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr dim cyfrif yn y byd yr wyf yn ei wneud o’m heinioes, fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y cyflawnwyf fy rhedfa a’r weinidogaeth yr hon a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, ac y tystiolaethwyf efengyl gras Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond ni chyfrifaf mo’m bywyd yn werthfawr i mi fy hun, er mwyn gorffen fy rhedegfa a’r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i ddwys dystiolaethu am efengyl gras Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sdim ots! Cyn belled â'm bod i'n gorffen y ras! Dydy mywyd i'n dda i ddim oni bai mod i'n gwneud y gwaith mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i mi — sef dweud y newyddion da am gariad a haelioni Duw wrth bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nid wyf yn gwneuthur unrhyw gyfrif o' m heinioes fel yn werthfawr i mi fy hun, fel y gorphenwyf fy ngyrfa a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl gras Duw.