Acts 20:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon wele, mi ’wnn pan yw o hynn allan na bydd y chwi bawp, trwy yr ei y cerddais gan praecethy teyrnas Dew, weled vy wynep mwy ach.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, wele, myfi a wn na welwch chwi oll mo’m gwyneb mwyach, ymhlith y rhai y tramwyais yn pregethu’r deyrnas;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn awr dyma fi’n gwybod na welwch chwi mwyach fy wyneb, chwi oll y bûm i ’n teithio yn eich plith gan gyhoeddi’r deyrnas;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dyna dw i wedi ei wneud yn eich plith chi — dw i wedi bod yn mynd o le i le yn pregethu am deyrnasiad Duw, ond bellach dw i'n gwybod na chewch chi ngweld i byth eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ac yn awr, 'rwy'n gwybod na chewch weld fy wyneb mwyach, chwi oll y bm i'n teithio yn eich plith gan gyhoeddi'r Deyrnas.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr, wele, mi a wn na welwch chwi oll fy wyneb i mwyach, yn mysg y rhai y tramwyais, gan bregethu y Deyrnas.