Acts 20:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Edrychwch gan hyny arnoch eeich hunain, ac ar yr oll ddevait, ar yr ei y gwnaeth yr Yspryt glan chwi yn Olygwyr, i borthy Eccles Dew, yr hon a bwrcasodd ef aei briawt waed.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cymmerwch ofal am danoch eich hunain, ac am yr holl braidd yn yr hwn yr Yspryd Glân a’ch gosododd chwi yn esgobion, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a ennillodd Efe trwy Ei waed Ef Ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gofelwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y’ch dododd yr Ysbryd Glân chwi yn eu plith yn arolygwyr; bugeiliwch eglwys Dduw a enillodd ef â’i waed ei hun.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gofalwch amdanoch eich hunain, a'r bobl mae'r Ysbryd Glân wedi eu rhoi yn eich gofal fel arweinwyr. Bugeilio eglwys Dduw fel mae bugail yn gofalu am ei braidd — dyma'r eglwys wnaeth Duw ei phrynu'n rhydd â'i waed ei hun!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Gln chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a enillodd ef gwaed ei briod un.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Edrychwch atoch eich hunain ac at yr holl braidd, yn mhlith y rhai y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn Arolygwyr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a brynodd Efe trwy ei briod waed.