Acts 20:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny gwiliwch a’ meddyliwch, pan yw tros yspait tair blynedd na pheidiais i a rhybyddio pop vn, ðydd a’ nos a da i grae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais â chynghori, gyda dagrau, bob un o honoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny byddwch yn effro, gan gofio na pheidiais dros dair blynedd nos a dydd â rhybuddio pob un gyda dagrau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gwyliwch eich hunain! Cofiwch mod i wedi'ch rhybuddio chi ddydd a nos, a cholli dagrau lawer am y tair blynedd roeddwn i gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, byddwch yn wyliadwrus, gan gofio na pheidiais i, na nos na dydd dros dair blynedd, rhybuddio pob un ohonoch dagrau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny gwyliwch, gan gofio mai am dair blynedd, ddydd a nos, ni pheidiais gynghori pob un gyda dagrau.