Acts 20:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon vroder, eich gorchymynaf i Ddeo, ac i air y rat ef, yr hwn ys yð abyl y adeiliat angwanec, a’rhoi y chwy etiueddiaeth ymplith yr oll rei, ys y dd wedy ei sancteiddio.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr eich gorchymyn yr wyf i Dduw ac i air Ei ras Ef, yr hwn sydd abl i’ ch adeiladu ac i roddi yr etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr awron cyflwynaf chwi i’r Arglwydd ac i air ei ras, a ddichon adeiladu a rhoddi’r etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a santeiddiwyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n eich gadael chi yng ngofal Duw bellach, a'r neges am ei gariad a'i haelioni. Y neges yma sy'n eich adeiladu chi a rhoi etifeddiaeth i chi gyda phawb arall mae wedi eu cysegru iddo'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i air ei ras, sydd 'r gallu ganddo i'ch adeiladu, ac i roi i chwi eich etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i Air ei ras, yr Hwn sydd yn alluog i adeiladu ac i roddi yr Etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.