Acts 20:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac chwy chvvi a wyddoch, bot i’r dwylo hynn ar weini im angenreidiae, ac ir ei oedd gyd a mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Chwi eich hunain a wyddoch mai i’m cyfreidiau, ac i’r rhai oedd gyda mi, y gwasanaethodd y dwylaw hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gwyddoch chwi eich hunain i’r dwylo hyn wasanaethu i’m rheidiau i ac i’r rhai a oedd gyda mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfreidiau i, ac i'r rhai oedd gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'n gwybod yn iawn mod i wedi gweithio'n galed i dalu fy ffordd a chynnal fy ffrindiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wyddoch eich hunain mai'r dwylo hyn a fu'n gweini i'm hanghenion i ac eiddo'r rhai oedd gyda mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwychwi a wyddoch i'r dwylaw hyn wasanaethu i'm cyfreidiau, ac i'r rhai oedd gyda mi.