Acts 20:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr oll bethae a ddangoseis y‐chwy, p’odd gan weithiaw velly, y dylech gynnal y gweiniaid, a’ choffa geiriae yr Arglwydd Iesu, can yddaw ef ddywedyt, Gwynvydedic yw rroddy yn hytrach no d erbyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymhob peth y rhoddais i chwi siampl, mai wrth lafurio felly y mae rhaid cynnorthwyo’r gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, iddo Ef Ei hun ddywedyd, “Dedwydd yw rhoddi rhagor derbyn.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ym mhob peth dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae’n rhaid cynorthwyo’r gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono, ‘Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo'r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Drwy'r cwbl roeddwn i'n dangos sut bydden ni'n gallu helpu'r tlodion drwy weithio'n galed. Dych chi'n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: 'Dedwyddach yw rhoi na derbyn.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Rhoddais i chwi esiampl yn mhob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo y gweiniaid, a chofio hefyd eiriau yr Arglwydd Iesu, iddo ei Hun ddywedyd, Gwynfydedig yw Rhoddi yn hytrach na Derbyn.