Acts 20:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ymovidio yn bennaf o bleit y gairiae a ddywedesei ef, Na chaffent vvy welet y wynep e mwy ach Ac vvy ei cynhebryngesant i’r llong.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi syrthio ar wddf Paul, cusanent ef, gan ymofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai nad ydynt mwyach ar fedr gweled ei wyneb ef; ac hebryngasant ef i’r llong.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai, nad oeddynt mwyach i weled ei wyneb. Ac aethant i’w hebrwng ef i’r llong.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedden nhw'n arbennig o drist am ei fod wedi dweud y bydden nhw ddim yn ei weld byth eto.) Wedyn dyma nhw'n mynd i lawr at y llong gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ofidio yn bennaf am iddo ddweud nad oeddent mwyach i weld ei wyneb. Yna aethant i'w hebrwng ef i'r llong.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ymofidio yn benaf am y gair a ddywedasai, na chaent dremio ar ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.