Acts 20:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ni neu a vordwyesam ymaith y wrth Philippi, yn ol dyðiae yr bara croiw, ac a ðaetham atwynt i Troas ym‐pemp di ernot, lle yr arosam saith dydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a ninnau a fordwyasom ymaith, ar ol dyddiau y bara croyw, o Philippi, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum niwrnod; ac yno yr arhosasom saith niwrnod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ninnau, hwyliasom wedi dyddiau’r bara croyw o Philippi, a deuthom atynt i Droas ymhen pum niwrnod, ac yno treuliasom saith niwrnod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau'r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaethon ni ddim gadael Philipi nes oedd Gŵyl y Bara Croyw (sef y Pasg) drosodd. Yna bum diwrnod wedyn roedden ni wedi ymuno gyda'r lleill eto yn Troas, a dyma ni'n aros yno am wythnos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hwyliasom ninnau, wedi dyddiau'r Bara Croyw, o Philipi, a chyrraedd atynt yn Troas ymhen pum diwrnod; ac yno y buom am saith diwrnod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ni a fordwyasom ymaith ar ol dyddiau y Bara Croyw o Philippi, ac a ddaethom atynt i Troas yn mhen pum niwrnod, lle y treuliasom saith niwrnod.