Acts 20:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dyð cyntaf or wythnos a’r discipulon wedy dyvot yn‐cyt y ddrylio bara, y precethawdd Paul yðwynt, ac ef ar vynet ymaith dranoeth, ac a bar h aodd yn precethy y dan haner nos.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a nyni wedi dyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth, ac estynodd yr ymadrodd hyd hanner nos.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar y dydd cyntaf wedi’r Saboth, a ni wedi ymgynnull i dorri bara, dechreuodd Paul eu hannerch (yr oedd ar fedr mynd ymaith drannoeth), ac estynnodd ei araith hyd ganol nos.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y dydd cyntaf o'r wythnos, wedi i'r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar y nos Sadwrn dyma ni'n cyfarfod i fwyta a dathlu Swper yr Arglwydd. Paul oedd yn pregethu, a chan ei fod yn bwriadu gadael y diwrnod wedyn, daliodd ati i siarad nes oedd hi'n hanner nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddydd cyntaf yr wythnos, daethom ynghyd i dorri bara. Dechreuodd Paul, a oedd i fynd ymaith drannoeth, eu hannerch, a daliodd i draethu hyd hanner nos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, a ninau wedi ymgynull ynghyd i Dori Bara, ymresymai Paul â hwynt, ar fedr myned ymaith dranoeth, ac a barhâodd ei ymadrodd hyd haner nos.