Acts 20:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac eisteddawdd mewn ffenestr neb gwas ieuanc a’ ei enw Eutychus, wedy pwyso mewn trwmgwsc: ac val ydd oedd Paul yn hir precethy, ef e yn ’orthrwm edic gan hunaw, a ddygwyddodd i lawr or trydyðloft, ac a godwyt y vyny yn varw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan eistedd o ryw ŵr ieuangc a’i enw Eutuchus, yn y ffenestr, wedi syrthio i drymgwsg wrth ymresymmu o Paul yn helaethach, wedi ei ddwyn i wared gan ei gwsg, cwympodd i lawr o’r drydedd lofft, a chymmerwyd ef i fynu yn farw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhyw ŵr ifanc, a’i enw Ewtychus, oedd yn eistedd yn y ffenestr, a chysgadrwydd trwm yn ei lethu tra oedd Paul yn llefaru’n faith; ac fe’i gorthrymwyd gan gwsg, a syrthiodd o’r drydedd lofft i lawr, ac fe’i codwyd yn gorff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw ŵr ieuanc, a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o'r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i Paul fynd ymlaen ac ymlaen, dyma fachgen ifanc o'r enw Eutychus yn dechrau pendwmpian. Roedd yn eistedd ar silff un o'r ffenestri, a phan oedd yn cysgu go iawn syrthiodd allan o'r ffenest oedd ar y trydydd llawr. Dyma nhw'n mynd i'w godi, ond roedd wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhyw wr ieuangc o'r enw Eutychus oedd yn eistedd yn y ffenestr, yn cael ei lethu gan drwm‐gwsg; ac fel yr oedd Paul yn ymresymu yn helaethach, efe, wedi ei lethu gan y cwsg, a syrthiodd o'r drydedd loft, ac a godwyd i fyny yn farw.