Acts 21:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gwedy iddo‐ddyvot atam, e cymerth wregis Paul, gan rwymo ei ddwylo a’i draet ehun, ac a ddyvot. Hyn a ddywait yr Yspryt glan, Val hynn y bydd ir Iuðaeon yn‐Caerusalem rwymo y gwr biae yr gwregis hwn, a’i roddy yn‐dwylo y Genetloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod attom a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei draed ei hun ac ei ddwylaw, dywedodd, Hyn a ddywaid yr Yspryd Glân, Y gŵr, eiddo yr hwn yw’r gwregys hwn, fel hyn y rhwym yr Iwddewon ef yn Ierwshalem, a thraddodant ef i ddwylaw’ r cenhedloedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe ddaeth atom, a chymryd gwregys Paul, ac wedi iddo rwymo ei draed ei hun a’i ddwylo fe ddywedodd, “Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân — ‘Y gŵr biau y gwregys hwn, fe’i rhwyma’r Iddewon ef yng Nghaersalem, ac fe’i traddodant i ddwylo cenedlddynion.’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a'i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a'i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth, cymerodd felt Paul oddi arno a rhwymo ei ddwylo a'i draed ei hun gyda hi. Yna meddai, “Dyma mae'r Ysbryd Glân yn ei ddweud, ‘Bydd arweinwyr yr Iddewon yn Jerwsalem yn rhwymo'r sawl sydd biau'r belt yma, ac yna'n ei drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo'i draed a'i ddwylo ei hun, a dywedodd, "Dyma eiriau'r Ysbryd Gln: 'Y gu373?r biau'r gwregys hwn, fel hyn y rhwyma'r Iddewon ef yn Jerwsalem, a'i draddodi i ddwylo'r Cenhedloedd.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi dyfod atom, a chymeryd gwregys Paul, efe a rwymodd ei draed ei hun a'i ddwylaw, ac a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Yspryd Glân, Y gwr biau y gwregys hwn, yr un modd y rhwyma'r Iuddewon ef yn Jerusalem, ac a'i traddodant i ddwylaw y Cenhedloedd.