Acts 21:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atebawdd Paul ac y dyvot: Pa wylo a wnewch gā dori vy‐calon? Can ys parawt wyf nid yn vnic y vot vy rhwymo, n amyn hefyt i varw yn‐Caersalem er Enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yr attebodd Paul, Pa beth a wnewch yn gwylo ac yn torri fy nghalon? Canys myfi, nid yn unig i’m rhwymo, eithr i farw hefyd yn Ierwshalem, yr wyf barod, tros enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna atebodd Paul, “Beth a wnewch, yn wylo ac yn dryllio fy nghalon? Myfi yn wir, parod ydwyf nid yn unig i’m rhwymo ond hyd yn oed i farw yng Nghaersalem er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i'm rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ateb Paul oedd, “Pam yr holl grïo yma? Dych chi'n torri fy nghalon i. Dw i'n fodlon nid yn unig cael fy rhwymo, ond marw yn Jerwsalem er mwyn yr Arglwydd Iesu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebodd Paul, "Beth yr ydych yn ei wneud, yn wylo ac yn torri fy nghalon? Oherwydd yr wyf fi'n barod, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond hyd yn oed i farw, yn Jerwsalem, er mwyn enw'r Arglwydd Iesu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr atebodd Paul, Beth feddyliwch wrth wylo a llethu fy nghalon? Canys parod wyf, nid yn unig i'm rhwymo, ond hefyd i farw yn Jerusalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.