Acts 21:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryt na ellit troi ei veddwl, y peidiesam, gan ddywedyt. Poet ewyllys yr Arglwydd a vo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan na chymmerai ei berswadio, peidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan na ellid ei berswadio, tawsom gyda dywedyd, “Ewyllys yr Arglwydd a wneler.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd dim modd ei berswadio, felly dyma ni'n rhoi'r gorau iddi a dweud, “Wel, rhaid i beth bynnag mae'r Arglwydd eisiau ddigwydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan nad oedd modd cael perswd arno, tawsom gan ddweud, "Gwneler ewyllys yr Arglwydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe heb ei ddarbwyllo, ni a dawsom a sôn gyda dywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.