Acts 21:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dydd nesaf yd aeth Paul y mywn gyd a ni at Iaco: a’r oll Henafieit oeð wedy yr ymgynul’ yno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrannoeth yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago, a’r holl henuriaid oeddynt bresennol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrannoeth aeth Paul gyda ni at Iago, a deuthai’r holl henuriaid yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a'r holl henuriaid a ddaethant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'r diwrnod wedyn aeth Paul gyda ni i weld Iago, ac roedd yr arweinwyr i gyd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thrannoeth, aeth Paul gyda ni at Iago, ac yr oedd yr henuriaid i gyd yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dydd canlynol yr aeth Paul i mewn gyda ni at Iago; hefyd yr holl Henuriaid oeddent yn bresenol.