Acts 21:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddo ei cofleidiaw, y managawð mewn dosparth bop peth ar y wnaethoedd oedd Dew ym‐plith y cenetloeð drwy y, weinidogeth ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu cyfarch, mynegodd, bob yn un, bob un o’r pethau a wnaeth Duw ymhlith y cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo’u cyfarch hwynt, fe adroddai bob yn un ac un y pethau a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl eu cyfarch dyma Paul yn rhoi adroddiad manwl o'r cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwy ei waith ymhlith pobl o genhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l eu cyfarch, adroddodd yn fanwl y pethau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo eu cyfarch, efe a adroddodd bob yn un, bob un o'r pethau a wnaeth Duw yn mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.