Acts 21:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy i ni gahel llong y elei trosodd i Phoinice, ni aetham iddi, ac a hwyliesam ymaith,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cael llong yn myned trosodd i Phenice, wedi dringo iddi, hwyliasom ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chawsom long yn croesi i Phoenice, ac aethom arni a chodi hwyl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Newid llong yno, a hwylio ymlaen ar long oedd yn mynd i dalaith Phenicia yn Syria.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cawsom long yn croesi i Phoenicia, ac aethom arni a hwylio ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi cael llong yn croesi trosodd i Phœnicia, ni a aethom i fyny iddi, ac a hwyliasom.