Acts 21:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly pan glywsant hyny, y rhoddesont ’ogoniant ir Arglwydd, ac y dywetsont wrthaw: Ys gwely, vrawt, pa niver miloedd o’r Iuddaeon ys ydd yn credy, ac y maēt oll yn gwynvydy am Ddeddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi clywed, a ogoneddent Dduw; a dywedasant wrtho, Gweli, frawd pa sawl myrddiwn sydd ymhlith yr Iwddewon, o’r rhai a gredasant, a phawb o honynt, selog dros y Gyfraith ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau, wedi clywed, dechreuasant ogoneddu Duw; a dywedasant wrtho, “Ti weli, frawd, pa sawl myrddiwn y sydd o gredinwyr ymhlith yr Iddewon, ac y maent oll yn selog dros y Gyfraith;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o'r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i'r ddeddf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywon nhw'r hanes dyma nhw'n moli Duw. Ond wedyn dyma nhw'n dweud wrth Paul: “Frawd, rwyt ti'n gwybod fod degau o filoedd o Iddewon wedi dod i gredu hefyd, ac maen nhw i gyd yn ofalus iawn i gadw Cyfraith Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O glywed hyn, rhoesant ogoniant i Dduw. Yna meddent wrth Paul, "Yr wyt yn gweld, frawd, fod credinwyr dirifedi ymhlith yr Iddewon, ac y maent i gyd yn selog dros y Gyfraith;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glywsant, hwy a ogoneddasant Dduw; dywedasant hefyd wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd yn mhlith yr Iuddewon o'r rhai sydd wedi credu, a'r oll yn selog dros y Gyfraith o'r dechreu: