Acts 21:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a glywsant am danat, dy vot yn dyscu yr oll Iuddaeon, ys ydd ym plith y Cenetloedd, y ymwrthðot a’ Moysen, ac yn dywedyt, na ddlent anwaedy ar ei plant, na byw yn ol y devodae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac hyspyswyd iddynt am danat mai ymadawiad â Mosheh a ddysgi i’r holl Iwddewon y sydd ymhlith y cenhedloedd, gan ddywedyd iddynt beidio ag amdorri ar eu plant, na rhodio yn y defodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chawsant wybod amdanat ti dy fod yn dysgu gwrthgiliad oddiwrth Foesen i’r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant a rhodio yn ôl eu defodau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu'r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond maen nhw wedi clywed dy fod ti'n dysgu'r Iddewon sy'n byw mewn gwledydd eraill i droi cefn ar Moses, i stopio enwaedu eu bechgyn a chadw'r traddodiadau Iddewig eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chawsant wybodaeth amdanat ti, dy fod yn dysgu'r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd i wrthgilio oddi wrth Moses, gan ddweud wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant na byw yn l ein defodau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac hyfforddwyd hwy am danat ti dy fod yn dysgu ymwrthodiad â Moses i'r holl Iuddewon sydd yn mysg y Cenhedloedd, gan ddywedyd wrthynt beidio enwaedu ar y plant na rhodio wrth y defodau.