Acts 21:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cymer h wynt, a’ glanha dy hun y gyd ac wynt, a’ chyd gostia a’ hwy, yd y n y d eilliant ei pennae: a’ gwybot a gaiff pawp, am y pethae y glywsant am danat, nad ynt dim, eithyr dy vot ti theu hevyt yn rhodio ac yn cadw yr Ddeddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn cymmer attat, a glanhaer di ynghyda hwynt, a gwna’r draul drostynt fel yr eilliont eu pennau, a gwybydd pawb mai o’r pethau a hyspyswyd iddynt am danat, nid oes dim un yn bod, eithr rhodio yr wyt ti dy hun gan gadw’r Gyfraith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cymer y rhain, ac ymlanha gyda hwynt, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau, ac fe wybydd pawb nad oes dim yn yr hyn y cawsant ei glywed amdanat, ond dy fod dithau hefyd yn cerdded dan gadw’r Gyfraith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cymer y rhai hyn, a glanhaer di gyda hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau: ac y gwypo pawb am y pethau a glywsant amdanat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y ddeddf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dos gyda nhw, a mynd trwy'r ddefod o lanhau dy hun, a thalu'r costau iddyn nhw gael eillio eu pennau. Bydd hi'n amlwg i bawb wedyn bod y sibrydion amdanat ti ddim yn wir, a dy fod ti'n byw yn ufudd i'r Gyfraith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymer y rhain, a dos di gyda hwy trwy ddefod y pureiddio, a thl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau; yna fe wl pawb nad oes dim yn y wybodaeth a gawsant amdanat, ond dy fod tithau hefyd yn dilyn ac yn cadw'r Gyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
cymer y rhai hyn at at: glanhaer di gyda hwynt; a thâl y draul drostynt, fel yr eilliont eu penau; a phawb a ddeuant i wybod nad oes dim yn y pethau yn y rhai yr hyfforddwyd hwynt am danat, eithr dy fod dy hun yn rhodio gan gadw y Gyfraith.