Acts 21:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys tu ac at am y Cenedloedd, ys ydd yn credu, ny ni a escrivenesam, ac a varnesam na bo yddwynt gadw dim cyfryw beth, eithyr ymoglyt o hanynt rac y pethe ’ry offrymer ir delwae a’ rac gwaet, ac ywrth y degir, ac ywrth g odineb.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond am y cenhedloedd a gredasant nyni a orchymynasom, gan farnu ymgadw o honynt oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eulunod, a gwaed, a’r peth tagedig, a phuteindra.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am y cenedlddynion a gredodd, anfonasom ni atynt gan ordeinio iddynt ymogelyd rhag yr hyn a aberthwyd i ddelwau a rhag gwaed a rhag y peth a dagwyd a rhag anniweirdeb.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o'r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond lle mae'r Cristnogion o genhedloedd eraill yn y cwestiwn, dŷn ni wedi dweud mewn llythyr beth dŷn ni'n ei ddisgwyl ganddyn nhw — sef peidio bwyta cig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau, na dim sydd â gwaed ynddo, na chig anifeiliaid sydd wedi eu tagu, a'u bod i gadw draw oddi wrth unrhyw anfoesoldeb rhywiol.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond am y credinwyr o blith y Cenhedloedd, yr ydym ni wedi ysgrifennu atynt a rhoi ein dyfarniad, eu bod i ymgadw rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, neu waed, neu'r hyn a dagwyd, a rhag anfoesoldeb rhywiol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond am y Cenhedloedd crediniol, nyni a ddanfonasom genadwri, gan farnu iddynt ymgadw rhag yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a'r hyn a dagwyd, a phuteindra.