Acts 21:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Paul a gymerawdd y gwyr, a’ thranoeth yr ymlanhaodd e y gyd ac wynt, ac ydd aeth y mewn ir Templ, gan espysy cyflawniat dyddiae yr glanhaat, yd y n y d offrymit offrwm dros bob vn o han addvv ynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna Paul, wedi cymmeryd y dynion atto, trannoeth, wedi ei lanhau ynghyda hwynt, yr aeth i mewn i’r deml, gan hyspysu cyflawniad dyddiau’r glanhad, nes yr offrymmid yr offrwm dros bob un o honynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna fe gymerth Paul y gwŷr, a thrannoeth ymlanhau gyda hwynt a mynd i mewn i’r Deml, i roi rhybudd am orffen dyddiau’r glanhad, sef y dydd pan offrymwyd yr offrwm dros bob un ohonynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Paul a gymerth y gwŷr; a thrannoeth, gwedi iddo ymlanhau gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r deml; gan hysbysu cyflawni dyddiau'r glanhad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un ohonynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly'r diwrnod wedyn dyma Paul yn mynd drwy'r ddefod o lanhau ei hun gyda'r dynion eraill. Wedyn aeth i'r deml i gyhoeddi'r dyddiad y byddai'r cyfnod o buredigaeth drosodd, pan fyddai offrwm yn cael ei gyflwyno ar ran pob un ohonyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe gymerodd Paul y gwu375?r, a thrannoeth aeth trwy ddefod y pureiddio gyda hwy, ac aeth i mewn i'r deml, i roi rhybudd pa bryd y cyflawnid dyddiau'r pureiddio ac yr offrymid yr offrwm dros bob un ohonynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna Paul a gymerodd y gwyr ato ei hun, a'r dydd nesaf gan ymlanhâu gyda hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml; gan hysbysu cyflawniad dyddiau y glanhâd, hyd nes yr offrymwyd yr offrwm dros bob un o honynt.