Acts 21:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy gorphen hayach en y saith die rnot, yr Iuddaeon a’r oeddynt o’r Asia (pan wel e sant ef yn y Templ) a gynhyrfesant yr oll popul, ac a ddodesont ddwylo arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan oedd y saith niwrnod ar fedr eu cyflawni, yr Iwddewon o Asia, wedi ei weled yn y deml, a derfysgasant yr holl dyrfa,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan oedd y saith niwrnod ar eu dwyn i ben, fe ganfu’r Iddewon o Asia ef yn y Deml, a chynhyrfu’r holl dorf a wnaethant a rhoi eu dwylo arno,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddynt o Asia, pan welsant ef yn y deml, a derfysgasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd saith diwrnod y buredigaeth bron ar ben, dyma ryw Iddewon o dalaith Asia yn gweld Paul yn y deml. Dyma nhw'n llwyddo i gynhyrfu'r dyrfa ac yn gafael ynddo
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan oedd y saith diwrnod bron ar ben, gwelodd yr Iddewon o Asia ef yn y deml. Codasant gynnwrf yn yr holl dyrfa, a chymryd gafael ynddo,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan yr oedd y saith niwrnod ar gael eu cyflawnu, yr Iuddewon o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfysgasant yr holl dyrfa, ac a ddodasant ddwylaw arno,